Dyma gymhwyster rheoli cyffredinol sydd wedi ennyn parch rhyngwladol.
Ers dros ugain mlynedd bellach, mae Ysgol Fusnes Abertawe wedi cyflwyno rhaglen Gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd.
Mewn ymateb i’r galw o fyd diwydiant, mae’r MBA hwn yn cyfuno astudiaeth sylfaenol o’r pynciau busnes craidd gan amlygu arbenigedd mewn busnes rhyngwladol.