Skip page header and navigation

Gwneud Ffilmiau Antur (Llawn amser) (CertHE)

Caerfyrddin
1 Blynedd Llawn amser
120 o Bwyntiau UCAS

Mae’r Dystysgrif Addysg Uwch (TystAU) mewn Gwneud Ffilmiau Antur yn cynnig cyfle unigryw i gyfuno’ch angerdd am yr awyr agored gyda chynhyrchu cyfryngau creadigol.   Y cwrs hwn yw’r unig un o’i fath yn y DU, sydd wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i greu ffilmiau cymhellol mewn lleoliadau anturus. P’un a ydych yn dal gwefr esgyniad mynydd neu lonyddwch glannau anghysbell, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i droi eich profiadau’n storïau cyfareddol ar y sgrin. 

Mae’r cwrs sydd mewn lleoliad sy’n cefnogi ystod eang o weithgareddau awyr agored yn darparu’r amgylchedd delfrydol ar gyfer dysgu agweddau technegol a chreadigol ar wneud ffilmiau.  Byddwch yn cael profiadau ymarferol mewn amryw o amgylcheddau o dirluniau garw i leoliadau trefol, gan ganiatáu i chi archwilio technegau adrodd stori gwahanol. Mae’r cwrs wedi’i greu gyda mewnbwn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan sicrhau bod yr hyn yr ydych yn ei ddysgu yn berthnasol ac yn gyfredol ag arferion cyfredol.  Mae’r ffocws hwn ar safonau’r diwydiant yn golygu y byddwch yn barod ar gyfer cyflogaeth mewn maes cystadleuol.  

Byddwch yn cael y cyfle i weithio’n annibynnol gyda chleientiaid, asiantaethau, a sefydliadau allanol drwy gydol y cwrs, gan greu cynnwys cyfryngau o’r byd go iawn. Mae’r profiadau hyn yn amhrisiadwy wrth greu eich portffolio a deall sut i reoli prosiectau mewn cyd-destun proffesiynol.  Mae’r sgiliau yr ydych yn eu datblygu ar y cwrs hwn nid yn unig yn berthnasol i wneud ffilmiau antur, ond gellir eu haddasu i ystod eang o rolau cynhyrchu cyfryngau ar draws diwydiannau amrywiol.  

Mae sawl modwl yn y TystAU yn cynnig cysylltiadau uniongyrchol â’r diwydiant.  Er enghraifft, efallai byddwch yn cael y cyfle i gydweithio â phartneriaid megis Canolfan S4C yr Egin, hwb creadigol a digidol, a gweithio gyda brandiau adnabyddus megis OM-Digidol, Panasonic Lumix ac Ironman.  Mae’r partneriaethau hyn yn darparu cipolwg i sut mae gweithwyr proffesiynol yn gweithredu yn y maes yn ogystal â rhoi’r cyfle i chi greu gwaith sy’n cwrdd â safonau’r diwydiant.  

Mae’r cwrs hwn yn rhan o glwstwr creadigol ehangach sy’n cynnwys rhaglenni mewn Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, Actio, Theatr, Dylunio, a Chynhyrchu.  Byddwch yn elwa ar adnoddau a rennir, arbenigedd staff a chyfleusterau ar draws y rhaglenni hyn, gan gyfoethogi eich profiad dysgu yn ogystal â chael eich cyflwyno i ystod o ddisgyblaethau creadigol.  

Y cwrs TystAU mewn Ffilmio Antur yw eich cam cyntaf i ddiwydiant deinameg a chyffrous, lle mae eich creadigrwydd a’ch angerdd am yr awyr agored yn gallu ffynnu mewn cyd-destun proffesiynol.  

Os ydych yn siarad Cymraeg, gallwch ddewis i astudio hyd at 40 credyd o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ychwanegu dimensiwn ychwanegol i’ch profiad dysgu.  

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
1 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae ein cyrsiau arloesol mewn Gwneud Ffilmiau Antur yn unigryw yn y DU.
02
Mae’r rhaglenni gradd wedi’u datblygu gyda’r diwydiant i baratoi myfyrwyr at yrfa mewn gwneud ffilmiau cyfoes.
03
Mae ein lleoliad hyfryd yng Ngorllewin Cymru yn darparu ystod eang o dirweddau, bywyd gwyllt, amgylcheddau a chwaraeon ar gyfer gwaith cynhyrchu.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein gradd Gwneud Ffilmiau Antur wedi’i chynllunio i gynnig profiad dysgu ymarferol ac ymdrochol, gan integreiddio sgiliau ymarferol â defnydd yn y byd go iawn. Rydym yn credu mewn dull sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, lle mae dysgu’n ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth gan ddefnyddio tirweddau Gorllewin Cymru, ac archwilio’r cyfleoedd gwych y mae’r lleoliad hwn yn eu cynnig. Trwy alldeithiau a theithiau maes, byddwch yn ffilmio campau eithafol, bywyd y môr, a bywyd gwyllt, gan archwilio clogwyni arfordirol, traethau, mynyddoedd, llynnoedd a dyffrynnoedd. Bydd mewnbwn gan weithwyr proffesiynol y diwydiant yn eich arwain, a bydd ymweliadau stiwdio a lleoliadau gwaith rheolaidd yn cynnig cipolwg go iawn ar y diwydiant. 

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn gwneud ffilmiau, archwilio ecoleg a’i berthnasedd i antur, ac addasu i’r oes ddigidol. Mae’r flwyddyn yn cynnwys astudiaeth fanwl o risgiau antur a chynhyrchu ffilmiau ymarferol, gan osod sylfaen gref ar gyfer prosiectau yn y dyfodol a heriau cyfoes.

Cyflwyniad i Wneud Ffilmiau

(20 credydau)

Ecoleg Antur

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Antur: Risg sy'n Werth ei Gymryd?

(20 credydau)

Cynhyrchu Ffilm

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • 120 o Bwyntiau UCAS.

  • Dim arholiadau. Gwaith cwrs ymarferol, traethodau a chyflwyniadau.

  • Costau Ychwanegol Cyrsiau

    • Bwndel cyfarpar awyr agored gorfodol — tua £230

    Argymhellir

    • Cerdyn SD cyflym, gyriant caled.
    • Dewis o alldeithiau dewisol yn amrywio o £200-1000.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae sgiliau entrepreneuraidd a galwedigaethol yn elfen greiddiol o brofiadau’r myfyrwyr, gan alluogi graddedigion i fynd i mewn i’r diwydiant yn hyderus fel gweithwyr llawrydd ac i hyrwyddo ac arddangos eu gwaith.

    Mae ymgysylltu â’r diwydiant yn rhan annatod o’r holl agweddau ar ein rhaglenni. Gall hyn fod ar ffurf lleoliadau gwaith, prosiectau ar gyfer cleientiaid allanol, gweithio ar brosiectau ffilm, neu ymgysylltu â’r ymarferwyr proffesiynol niferus o’r diwydiant a fydd yn cynnig eu harbenigedd yn ystod y rhaglenni.

Mwy o gyrsiau Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio

Chwiliwch am gyrsiau