Skip page header and navigation

Animeiddio a VFX (Llawn amser) (HNC)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn Amser
32 o Bwyntiau UCAS

Mae ein HNC mewn Animeiddio a VFX wedi’i chynllunio ar gyfer y rheiny sydd eisiau dysgu am fyd cyffrous animeiddio digidol ac effeithiau gweledol. Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad ymarferol i’r sgiliau a’r wybodaeth allweddol sydd eu hangen i ddechrau gyrfa yn y diwydiant creadigol hwn. 

Mae’r cwrs yn ymdrin â hanfodion animeiddio a VFX, o’r syniad cychwynnol i’r cynhyrchiad olaf.  Byddwch yn dysgu am y prosesau sy’n ymwneud â chreu cynnwys animeiddiedig ac effeithiau gweledol, gan gynnwys byrddau stori, modelu 3D a chyfansoddi. Byddwch yn creu sylfaen gref yn yr agweddau technegol cynhyrchu ar yr un pryd â meithrin eich galluoedd creadigol ar y cwrs hwn. 

Byddwch yn cael y cyfle i weithio ar ystod o brosiectau sy’n adlewyrchu arferion diwydiant y byd go iawn.  Bydd y prosiectau hyn yn eich helpu i adeiladu portffolio amrywiol o waith sy’n arddangos eich sgiliau mewn animeiddio a VFX.  Byddwch yn cael profiad ymarferol gyda meddalwedd ac offer o safon diwydiant drwy gydol y cwrs, a fydd yn rhoi sylfaen gadarn i chi ar gyfer gyrfa yn y maes. 

Yn ogystal, mae’r cwrs yn eich annog i feddwl yn feirniadol am rôl animeiddio a VFX yn y byd heddiw.  Byddwch yn archwilio sut mae’r ffurfiau creadigol hyn o fynegiant yn gallu cyfleu syniadau o fewn cyd-destunau cymdeithasol a diwylliannol gwahanol.  Bydd y ddealltwriaeth ehangach hon nid yn unig yn gwella eich sgiliau technegol, ond hefyd eich gwneud yn ymarferydd mwy meddylgar ac adfyfyriol. 

Yn ychwanegol i sgiliau ymarferol, nod y cwrs yw datblygu eich galluoedd deallusol. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n annog sgiliau meddwl beirniadol, datrys problemau a chreadigrwydd.  Mae’r sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd am weithio mewn animeiddio a VFX, lle rhoddir gwerth uchel ar arloesedd a gwreiddioldeb.

Mae darlithoedd a gweithdai yn greiddiol i’ch profiad dysgu, gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ragori yn y maes hwn.  Byddwch yn cael eich arwain gan diwtoriaid profiadol sydd â dealltwriaeth ddofn o ochrau artistig a thechnegol animeiddio a VFX. 

Drwy gwblhau’r HNC hon, byddwch yn barod i naill ai barhau â’ch astudiaethau mewn maes cysylltiedig neu i gymryd y camau cyntaf yn y diwydiant animeiddio a VFX. P’un a oes diddordeb gennych mewn gweithio mewn ffilm, teledu, gemau neu unrhyw faes creadigol arall, mae’r cwrs hwn yn cynnig sylfaen gref ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
AVF9
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn Amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gennym ni y mae’r unig amgylchedd cynhyrchu wedi’i efelychu yn y DU sy’n cysylltu Animeiddio gyda Ffilm a Thechnoleg Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio – i gyd o dan un piblinell stiwdio, efelychu cynyrchiadau animeiddio a wneir yn Hollywood.
02
Gosodwn heri i chi i greu ar gyfer eich diwydiant – ac ar gyfer eich cynulleidfa, gyda briffiau byw ar gyfer ffilm, teledu a thu hwnt.
03
Amgylchedd creadigol cysylltiedig, cydweithredol. Prosiectau sy’n wynebu’r diwydiant, i gyd yn dod o berthnasau ugain mlynedd gyda chymuned o artistiaid, animeiddwyr ac artistiaid digidol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ein Hathroniaeth


Rydym yn credu mewn dull cyfannol o ddysgu ac addysgu sy’n cyfuno archwilio creadigol â meistrolaeth dechnolegol. Ein nod yw rhoi sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddeallusol i fyfyrwyr, gan feithrin arloesedd a datblygiad proffesiynol trwy gydol eu hastudiaethau. Mae ein staff yn artistiaid ac animeiddwyr angerddol, sydd wedi ymrwymo i ddarparu’r gefnogaeth orau i helpu’ch gwaith i sefyll allan. 

Rydym yn cynnig cyfleoedd i ddod â’ch dychymyg a’ch straeon yn fyw, dod o hyd i’ch angerdd, a gwireddu eich breuddwydion. P’un a bod gennych chi ddiddordeb mewn ffilm, dylunio cysyniadol, modelu neu unrhyw fath o animeiddio, rydym yn eich helpu i ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n ei garu a dod ag ef yn fyw. Boed hynny’n 2D, stop-symud, 3D — mae animeiddio digidol yn llwyr-ymdrochol.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn animeiddio a VFX trwy fodiwlau fel Astudiaethau Gweledol a Chyflwyniad i Animeiddio Cymeriadau. Byddwch yn archwilio cynhyrchu rhithwir, modelu 3D, a dylunio’r amgylchedd, tra hefyd yn datblygu eich sgiliau academaidd a phroffesiynol. Byddwch yn cael dealltwriaeth o safbwyntiau animeiddio ac effaith gadarnhaol VFX.

Astudiaethau Gweledol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gynhyrchu Rhithwir

(20 credydau)

Dylunio'r Amgylchedd

(20 credydau)

Cyflwyniad i Animeiddio Cymeriadau

(20 credydau)

Datblygiad Academaidd a Phroffesiynol

(10 Credydau)

Cyflwyniad i Fodelu 3D

(10 Credydau)

Cyflwyniad i Animeiddio Cymeriad

(10 Credydau)

VFX ar gyfer Effaith Gadarnhaol

(10 Credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio o waith.

    Ein cynnig arferol ar gyfer cwrs gradd yw 120 o bwyntiau tariff UCAS. Rydym yn disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd C neu uwch mewn Saesneg Iaith (neu Gymraeg) lefel TGAU, ynghyd â phas mewn pedwar pwnc arall. Hefyd rydym yn derbyn ystod o gymwysterau Lefel 3 gan gynnwys:

    • Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio, ynghyd ag un TAG Safon Uwch mewn pwnc academaidd perthnasol
    • Tair TAG Safon Uwch neu gyfwerth
    • Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc perthnasol, gydag o leiaf gradd Clod
    • Sgôr Bagloriaeth Ryngwladol o 32
    • Gellir ystyried cymwysterau perthnasol eraill fesul unigolyn

    Er bod cymwysterau’n bwysig, nid yw ein cynigion yn seiliedig yn unig ar ganlyniadau academaidd. Os nad oes gennych y pwyntiau UCAS gofynnol, cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs neu e-bostiwch artanddesign@pcydds.ac.uk am y gallwn ystyried ein cynigion yn seiliedig ar rinweddau unigol, gwaith eithriadol, a/neu brofiad ymarferol.

  • Mae llawer o’r briffiau a gwaith cwrs a’r gwaith y bydd rhaid i chi ei gyflwyno yn gofyn i chi greu rhywbeth ffres, newydd, ysbrydoledig – a’r cyfan yn ffocysu ar y diwydiant. Bydd gennych fewnbwn creadigol ar fydau newydd a dychmygus.

    Tiwtorialau, darlithoedd, cyflwyniadau, crynodebau ac ymarferion a gyfoethogir yn weledol – gyda golwg ar gysyniad bob tro; gan feddwl o hyd am sut i ymestyn y gwaith hwn ar gyfer riliau arddangos. Yn aml, bydd adborth wedi’i ddarlunio a/neu’n llawn awgrymiadau mwy gweledol i helpu gyda dyluniadau amgen, symudiadau, strwythur naratif, ayb, ayb.

    Gofynnwn i chi ddefnyddio cit anhygoel. Rydym yn harneisio technoleg – yn ei reoli – trwy ddarlunio, cintiqs, gwneud modelau, meddalwedd 2D a 3D, technegau cynhyrchu a setiau sgiliau.

    Rydym yn darparu llawer o’r pethau sylfaenol, gyda heriau penodol i’ch dechrau ar y daith – ac i mewn i AU – gan ofyn i chi anelu’n uchel.

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Byddwn ni’n darparu’n deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno mewn gwibdeithiau astudio dewisol, ac argraffu.

    Disgwylir i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudiaethau a rhoi gwybod i chi am gyflenwyr priodol pe baech yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn neu yn ystod eich astudiaethau.

    Bydd ‘pecyn offer celf a dylunio’ sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei agen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf. Hefyd, er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) er mwyn i chi fynd ati i wneud eich gwaith cwrs, gallech ddod â’ch dyfeisiau digidol eich hun gyda chi, ond eto, cysylltwch â ni’n gyntaf cyn prynu unrhyw beth.

    Yn dibynnu ar y pellter a’r hyd, gall ymweliadau astudio opsiynol amrywio o ran cost o oddeutu £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol i £200+ ar gyfer teithiau tramor – mae’r costau hyn yn cynnwys pethau megis cludiant, mynediad i leoliadau a llety ac fel arfer ar brisiau gostyngedig i’n myfyrwyr.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Gall myfyrwyr fanteisio hefyd ar y cyfle i astudio am semester yn UDA a Canada

  • Cerrig sarn i ddiwydiant!

    Mae bod yn berchen ar radd animeiddio yn caniatáu i chi feddwl am lawer o wahanol ddiwydiannau – a bydd gennych sgiliau trosglwyddadwy er mwyn gallu symud o un i’r llall. Mae gan rai o’n graddedigion eu cwmnïau gemau, delweddu neu gynhyrchu eu hunain. Mae rhai’n gweithio fel entrepreneuriaid ar eu brandiau eu hunain. Mae llawer yn dod o hyd i waith ar brosiectau, ffilmiau hir ac mewn tai cynhyrchu eithriadol.

    Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn timau sy’n ennill Oscars ac ar ffilmiau nodwedd.

    • Boxtrolls
    • Captain America
    • Chronicles of Narnia
    • Fantastic Beasts
    • Guardian of the Galaxy
    • Hotel Transylvania
    • Iron Man 2
    • Jungle Book
    • Kubo and The Two Strings
    • Man of Steel
    • Prometheus
    • Skyfall
    • Thor
    • World War Z

    a llawer iawn mwy.

Mwy o gyrsiau Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio

Chwiliwch am gyrsiau