Skip page header and navigation

Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid yn yr Hinsawdd (Llawn amser) (HND)

Abertawe
2 Flynedd Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS

Mae newid yn yr hinsawdd a gweithgareddau anthropogenig yn fygythiadau mawr i fywyd ar y Ddaear. Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, mae addysg amgylcheddol gydol oes yn hanfodol ar gyfer gwneud cynaliadwyedd yn rhan greiddiol o’n cymdeithas fyd-eang. Mae Partneriaeth Ddysgu Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn amlygu y bydd plant heddiw yn wynebu canlyniadau hinsawdd sy’n newid. Felly, dylent fod yn barod i gyfrannu at yr ymdrech fyd-eang i “adeiladu capasiti” tuag at ddyfodol cynaliadwy.

Mae gan dîm ein cwrs hanes cryf mewn ymchwil amgylcheddol, gan ganolbwyntio ar reolaeth arfordirol a morol a chynaliadwyedd. Mae’r themâu allweddol hyn yn rhan annatod o’n rhaglen. Rydym hefyd yn archwilio cadwraeth cynefinoedd amgylcheddol ac integreiddio seilwaith gwyrdd o fewn amgylchedd dinesig. Mae lleoliad a heriau hinsawdd unigryw Abertawe, fel llifogydd, yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr astudio ac ymgysylltu ag atebion peirianneg ‘meddal’ neu naturiol.

Byddwch yn dysgu’r wyddoniaeth sy’n tanategu materion amgylcheddol amrywiol. Mae cwmpas eang y rhaglen yn cael ei gefnogi gan ymgysylltu cadarn gyda’r  diwydiant ac mae’n cynnwys gwaith maes/teithiau maes, gan eich galluogi i roi eich dysgu ar waith mewn senarios y byd go iawn. Byddwch yn datblygu sgiliau sy’n werthfawr iawn i gyflogwyr, fel meddwl beirniadol, y gallu i ddeall a mynd i’r afael â materion cymhleth, a’r sgil i gyflwyno dadleuon clir a rhesymegol.

Ymunwch â ni i gael yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â newid amgylcheddol byd-eang. Gan ganolbwyntio ar ddulliau arloesol ac atebion cynaliadwy, bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i gael effaith sylweddol ar ein byd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
SCC8
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Dosbarthiadau bach lle cewch y cyfle i ofyn cwestiynau a dysgu’n weithredol.
02
Cyfleoedd i ddysgu mewn ffordd ymarferol drwy waith maes gan ddefnyddio ein lleoliad daearyddol gwych.
03
Ymgysylltu’n weithredol gyda chyflogwyr, yn arbennig trwy ein cyrsiau gwaith maes lle byddwch yn dod i adnabod rheolwyr gwarchodfeydd ac ymgynghorwyr amgylcheddol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Os ydych chi’n angerddol ynghylch gwarchod yr amgylchedd ac am ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau i wneud hynny, yna mae’r cwrs HND hwn ar eich cyfer chi. Mae ein dull dysgu yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â gwaith maes ymarferol, gan feithrin amgylchedd dysgu cyfeillgar a hygyrch dan arweiniad staff sy’n weithgar ym maes ymchwil.

Mae ein campws yn Abertawe mewn lleoliad delfrydol rhwng Penrhyn Gŵyr a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – gan ddarparu safleoedd astudio perffaith ar gyfer gwyddor arfordirol a rheolaeth cynefinoedd.

Byddwch yn archwilio pynciau sylfaenol fel Gwasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystemau, Newid yn yr Hinsawdd, a Sgiliau Maes a Labordy. Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o faterion amgylcheddol ac yn gwella eich hyfedredd digidol a’ch galluoedd datrys problemau.

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Gwasanaethau Bioamrywiaeth ac Ecosystemau

(20 credydau)

Newid yn yr Hinsawdd a Gweithredaeth Weledol

(20 credydau)

Sgiliau Maes a Labordy

(20 credydau)

Tirwedd Ffisegol a'r Geosffer

(20 credydau)

Ymchwiliwch i ystod eang o fodiwlau hyblyg fel Cadwraeth Arfordirol, Morol a Bywyd Gwyllt, a Thechnolegau Carbon Isel. Byddwch hefyd yn astudio Deddfwriaeth Amgylcheddol a’r Economi Gylchol, ac yn cymryd rhan mewn modiwlau fel Ysgogwyr Newid, sy’n canolbwyntio ar greadigrwydd, brandio personol, a chyflogaeth gynaliadwy. Bydd Adnoddau Dŵr a Monitro Amgylcheddol yn datblygu eich sgiliau ymarferol ymhellach.

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Cadwraeth Arfordirol, Morol a Bywyd Gwyllt

(20 credydau)

Deddfwriaeth Amgylcheddol ac Economi Gylchol

(20 credydau)

Technolegau Carbon Isel

(20 credydau)

Adnoddau Dŵr a Monitro Amgylcheddol

(20 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd angen 48 pwynt Tariff UCAS arnoch yn y Safonau Uwch neu eu cywerth (120 o bwyntiau tariff UCAS).

    Dulliau Mynediad Amgen i Safon Uwch

    Cwblhau Cwrs Mynediad priodol neu brofiad galwedigaethol Proffesiynol yn llwyddiannus

    Yn arbennig rydym yn croesawu myfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad galwedigaethol neu hyd yn oed gwirfoddol yn sector yr amgylchedd. Bydd y gofynion mynediad yn amrywio’n amodol ar eich cefndir. Weithiau fe allwn ofyn i chi wneud cwrs Mynediad i’ch paratoi chi ar gyfer astudio, neu fe allwn eich derbyn yn seiliedig ar eich profiad yn unig.

    Os oes gennych frwdfrydedd dros yr amgylchedd ond mae gennych gefndir addysgol ansafonol, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod eich lle.

  • Mae asesiadau’n amrywio ar draws modylau drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau o adroddiadau maes a labordy i gyflwyniadau, traethodau ac arholiadau i roi’r cyfle i chi wneud yn dda a dangos eich gwybodaeth ddatblygol.

    Rydym yn ymfalchïo mewn rhoi adborth ardderchog ar bob cam o’r cwrs i’ch helpu i wneud cynnydd.

    Rydym yn defnyddio adborth i ddatblygu eich gwybodaeth am y cwrs ac, yn bwysig, eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ehangach wrth ysgrifennu adroddiadau, a chyfathrebu gwyddoniaeth fel y galwch ddangos eich gallu i weithio’n effeithiol yn sector yr amgylchedd ar ddiwedd eich cwrs.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae ein graddau amgylcheddol yn cyfuno astudiaethau academaidd gyda datblygiad sgiliau a medrau proffesiynol. Byddwch yn ennill sgiliau cyflogaeth trosglwyddadwy, gan gynnwys:

    • Dadansoddi data
    • Asesiadau amgylcheddol
    • Arolygu cynefinoedd
    • Adnabod straenachosyddion amgylcheddol
    • Dosbarthu gwybodaeth
    • Cyflwyniadau llafar a gweledol
    • Ysgrifennu Adroddiadau
    • Adnabod rhywogaethau

    Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn diwrnodau gwirfoddoli yn rhan o hyfforddiant gwaith maes ac fe’u hanogir i ddod o hyd i leoliadau gwaith dros yr haf a fydd yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr iddynt.

    Cewch eich annog i ddefnyddio gwaith cydweithredol gyda darparwyr profiad gwaith i gasglu data ar gyfer eich traethawd hir (eich prosiect mawr eich hun yn eich blwyddyn olaf).

    Mae un o’n prosiectau ymchwil ysgol, adennill sbwriel mwyngloddiau, yn rhoi llawer o gyfleoedd i gasglu data a dadansoddi pridd. Mae cyfleoedd eraill ar gael gyda Dinas a Sir Abertawe, lle mae myfyrwyr wedi gwirfoddoli i gasglu a dehongli data gwastraff arolygon.

    Newyddion

    • Swyddi newydd ar gyfer graddedigion Y Drindod Dewi Sant ym maes diogelu a gwella’r amgylchedd
    • Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant i ymweld â Chernobyl i astudio effaith y trychineb ar yr amgylchedd

    Gyrfaoedd

    Mae ein rhaglenni Cadwraeth Amgylcheddol yn cwmpasu ystod eang o bynciau sy’n gallu arwain at nifer enfawr o yrfaoedd. Dyma restr o rolau newydd graddedigion diweddar:

    • Swyddog Arolwg Ystlumod
    • Rheolwr Datblygu Busnes yn Hydro Industries
    • Swyddog Ymchwil Morfilod yng Nghosta Rica
    • Swyddog Cymuned a Gwarchod Natur yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
    • Rheolwr Cadwraeth yng Nghanolfan Anifeiliaid Llys Nini RSPCA
    • Dadansoddwr Data yn PHS Group
    • Technegydd Cefnogi Data yn Veolia
    • Ecolegydd yn Jacobs UK Ltd
    • Swyddog Ynni yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot
    • Awdur Amgylcheddol
    • Swyddog Amgylcheddol yn Natural England
    • Arbenigwr Amgylcheddol yn EcoVigour
    • Technegydd Amgylcheddol yn Rockwool
    • Technegydd Amgylcheddol, Trin Dŵr, Swydd Rydychen
    • Swyddog Gwerthuso a Monitro yn Down to Earth
    • Swyddog Technegol Pysgodfeydd yng Nghyfoeth Naturiol Cymru
    • Swyddog lifogydd a Dŵr yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
    • Cynorthwyydd Technegol Risg Llifogydd yng Nghyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf
    • Ymgynghorydd Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol
    • Dadansoddwr Seilwaith TG yn Coastal Housing Group
    • Ymchwilydd PhD
    • Swyddog y Wasg yn y Swyddfa Dywydd
    • Tîm cynhyrchu Springwatch a Chynorthwyydd Dysgu yn Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir
    • Rheolwr Prosiect yn Hydro Industries Ltd
    • Ymchwilydd ar gyfer Nutopia
    • Rheolwr Datblygu Gwledig yng Nghastell-nedd Port Talbot
    • Ecolegydd Uwch yn AECOM
    • Uwch Ecolegydd yn Asiant Cefnffyrdd De Cymru, Castell-nedd
    • Swyddog Cynaliadwyedd yn Y Drindod Dewi Sant
    • Rheolwr Tîm Ailgylchu Masnachol a Domestig, Dinas a Sir Abertawe
    • Technegydd Telemetreg Asedau Dŵr Gwastraff yn Nŵr Cymru Welsh Water
    • Swyddog Caniatáu Ansawdd Dŵr yng Nghaerdydd