Skip page header and navigation

Peirianneg Chwaraeon Moduro gyda Blwyddyn Sylfaen (Llawn amser) (BEng Anrh)

Abertawe
4 Blynedd Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Oes gennych chi ddiddordeb ym myd cyflym chwaraeon moduro ac awydd i adeiladu gyrfa yn y diwydiant peirianneg chwaraeon moduro? Mae ein gradd Peirianneg Chwaraeon Modur gyda Blwyddyn Sylfaen wedi’i chynllunio i ddarparu sylfaen gref mewn agweddau ar beirianneg fecanyddol a’r technolegau diweddaraf a ddefnyddir yn y maes. Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatrys problemau peirianneg ymarferol a datblygu eich sgiliau fel peiriannydd dylunio sy’n gallu gweithio’n effeithiol mewn timau.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar gerbydau rasio perfformiad uchel, gan eich dysgu am eu gofynion reidio a thrin yn ogystal â pherfformiad ac effeithlonrwydd trenau pŵer. Byddwch yn defnyddio offer o safon y diwydiant fel Dylunio drwy Gymorth CyfrifiadurCaffael Data, a meddalwedd efelychu uwch fel Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD)Dadansoddi Elfennau Meidraidd (FEA). Mae’r offer hyn yn hanfodol ar gyfer dylunio a mireinio cydrannau cerbydau.

Byddwch yn archwilio meysydd arbenigol gan gynnwys dylunio injan uwchdylunio trên pŵer, dynameg cerbydau, aerodynameg, a rheolaeth drydanol. Bydd gweithio ar brosiectau annibynnol a grŵp yn dyfnhau eich dealltwriaeth o’r pynciau hyn, gan roi profiad ymarferol gwerthfawr i chi. Mae’r dull ymarferol hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y sectorau modurol a chwaraeon moduro, lle gellir cymhwyso’r sgiliau rydych chi’n eu dysgu i sefyllfaoedd chwaraeon moduro o fywyd go iawn.

Mae ymwybyddiaeth amgylcheddol wedi’i hintegreiddio i’n cwricwlwm, gan eich helpu i ddysgu am ddylunio a thechnoleg gynaliadwy. Mae’r wybodaeth hon yn gynyddol bwysig yn y diwydiant ac yn agor cyfleoedd gwaith amrywiol, yn enwedig wrth i’r diwydiant symud tuag at gerbydau trydan a thechnolegau cynaliadwy.

Bydd myfyrwyr hefyd yn elwa o weithgareddau allgyrsiol sy’n gadael iddynt gymhwyso eu gwybodaeth i heriau ymarferol, gan wella ymhellach eu parodrwydd ar gyfer y gweithle. Mae’r cwrs yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr mewn meysydd fel peirianneg perfformiad, dylunio modurol a cheir rasio, a thechnoleg cerbydau trydan.

Mae ein rhaglen wedi’i chynllunio i’ch helpu i lwyddo yn y diwydiant chwaraeon moduro  lleol a byd-eang. Yn aml, mae graddedigion yn dod o hyd i yrfaoedd gwerth chweil mewn amrywiol feysydd sy’n gysylltiedig â pheirianneg chwaraeon moduro, gan gynnwys rolau sy’n canolbwyntio ar ddatblygu a phrofi cerbydau trydan.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
H341
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Y cwrs Peirianneg Chwaraeon Moduro hynaf yn y wlad.
02
Y cyfleuster chwaraeon moduro pwrpasol mwyaf newydd yn y wlad.
03
Tîm rasio dan arweiniad myfyrwyr, sy’n rhoi profiad ymarferol a lywir gan y diwydiant.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn ein prifysgol, rydym yn pwysleisio dulliau dysgu ymarferol. Mae ein gradd Peirianneg Chwaraeon Moduro yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiad ymarferol, gan sicrhau eich bod yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant chwaraeon moduro. Byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau o’r byd go iawn, gan ennill mewnwelediadau a phrofiad gwerthfawr i baratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Yn y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i sylfeini peirianneg fecanyddol a pheirianneg ddylunio. Byddwch yn dechrau defnyddio offer hanfodol fel systemau Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) a Chaffael Data. Mae’r flwyddyn sylfaen hon yn hanfodol ar gyfer adeiladu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau uwch a phrofiad ymarferol mewn peirianneg chwaraeon moduro.

Gorfodol

Cyflwyniad i Fathemateg a Gwyddoniaeth

(20 credydau)

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Mathemateg Bellach

(20 credydau)

Gwyddoniaeth Bellach ar gyfer Peirianneg

(20 credydau)

Prosiect Integreiddio

(20 credydau)

Cyflwyniad i Beirianneg Modurol

(20 credydau)

Yn yr ail flwyddyn, cewch eich cyflwyno i egwyddorion craidd peirianneg fecanyddol a pheirianneg ddylunio. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer Dylunio drwy gymorth Cyfrifiadur a dadansoddi data. Bydd y sylfaen hon yn eich paratoi ar gyfer pynciau uwch ac yn rhoi’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch ar gyfer profiad ymarferol yn y maes.

Gorfodol 

Dulliau Dadansoddol

(20 credydau)

Dylunio a Deunyddiau Peirianneg

(20 credydau)

Gwyddor Peirianneg

(20 credydau)

Systemau Rheoli Trydanol

(20 credydau)

Gweithdy ac Arfer

(20 credydau)

Technoleg Chwaraeon Moduro

(20 credydau)

Mae’r drydedd flwyddyn yn canolbwyntio ar gerbydau rasio perfformiad uchel a’u gofynion reidio a thrin. Byddwch yn astudio dynameg cerbydau, perfformiad ac effeithlonrwydd trenau pŵer, ac aerodynameg. Defnyddir offer efelychu uwch fel Dynameg Hylif Cyfrifiadurol (CFD) a Dadansoddi Elfennau Meidraidd (FEA) i ymchwilio a gwella dyluniadau cerbydau.

Gorfodol 

Dynameg Chwaraeon Moduro

(20 credydau)

Systemau Gyriant Amgen

(20 credydau)

Thermodynameg a Hylosgi

(20 credydau)

Rheoli Peirianneg

(20 credydau)

Prosiect Dylunio Grŵp

(20 credydau)

Dadansoddi Straen a Pheirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAE)

(20 credydau)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymchwilio i feysydd arbenigol fel dylunio trenau pŵer, a rheolaeth drydanol. Byddwch yn gweithio ar brosiectau annibynnol a grŵp, gan gymhwyso’ch gwybodaeth i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn ym myd Chwaraeon Moduro. Mae’r cwrs hefyd yn ymdrin ag agweddau amgylcheddol dylunio a thechnoleg, gan eich paratoi ar gyfer ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth. 

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Deinameg Chwaraeon Moduro Uwch

(20 credydau)

Dylunio Pwerwaith Cyfoes

(20 credydau)

Dadansoddi Strwythurol a Hylifol

(20 credydau)

Deunyddiau Modurol a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 32 pwynt o bynciau Safon Uwch rhifog neu dechnegol, gan gynnwys Mathemateg neu Ffiseg gradd B neu uwch. Hefyd, mae angen TGAU Mathemateg gradd C. Gellir ystyried profiad perthnasol.

    Nid yw ein cynigion wedi’u seilio ar ganlyniadau academaidd yn unig. Rydym yn ystyried eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd hefyd. Yn yr achosion hyn, rhaid darparu tystiolaeth o allu i ddilyn y cwrs yn llwyddiannus. Rydym yn hoffi rhoi pob cyfle i ymgeiswyr o’r fath ddangos bod ganddynt y cymhelliant a’r gallu i lwyddo yn eu dewis raglen.

  • Caiff y cwrs ei asesu drwy gymysgedd o waith cwrs, profion cyfnod, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac arholiadau.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae graddedigion y cwrs hwn wedi cael swyddi ar draws y diwydiant chwaraeon moduro, o weithgynhyrchwyr cydrannau arbenigol i dimau Fformiwla 1 a WRC. Mae graddedigion yn gweithio nawr mewn rolau megis datblygu a chalibro peiriannau perfformiad uchel a dylunio aerodynameg.

    Gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddatblygir ar y cwrs i ddiwydiannau eraill ac mae llawer o fyfyrwyr wedi symud i’r diwydiant modurol ehangach yn ogystal â gweithio i weithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol (OEMs) fel Ford, Jaguar Land Rover a chyflenwyr haen un fel Mahle. Bob blwyddyn mae nifer o’n graddedigion wedi dewis parhau â’u hastudiaethau academaidd i lefel Meistr a PhD.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau