Skip page header and navigation

Crefydd, Athroniaeth a Moeseg (Llawn amser) (BA Anrh)

Llambed
3 Blynedd Llawn amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Nod ein rhaglen Crefydd, Athroniaeth a Moeseg yw datblygu eich dealltwriaeth o rolau crefydd yn y byd hanesyddol ac yn y byd cyfoes. Byddwch yn dysgu am y datblygiadau allweddol yn hanes athroniaeth ac yn archwilio dadleuon a damcaniaethau athronyddol pwysig. Bydd y rhaglen hon yn eich dysgu i feddwl a rhoi rheswm ar waith mewn ffordd strwythuredig, drefnus. Byddwch yn dysgu sut i gyflwyno eich syniadau’n gryno, a sut i ddeall ac ymgysylltu â gwahanol safbwyntiau. Mae’r sgiliau hyn nid yn unig yn hanfodol ar gyfer eich astudiaethau ond hefyd yn werthfawr iawn mewn llawer o lwybrau gyrfa.

Mae’r radd yn cynnwys modiwlau sy’n ymwneud ag Athroniaeth a Chrefydd. Byddwch yn cymharu credoau ac arferion gwahanol grefyddau mawr, fel Bwdhaeth, Iddewiaeth, Islam a Christnogaeth, yn enwedig yng nghyd-destun byd sy’n gynyddol ymwybodol o’i amrywiaeth diwylliannol a chrefyddol. Byddwch yn archwilio sut mae crefydd wedi llunio ac yn parhau i ddylanwadu ar y byd, a byddwch yn ymchwilio i wreiddiau a datblygiad y traddodiadau crefyddol hyn.

Mae’r rhaglen eang hon hefyd yn archwilio moeseg, lle byddwch yn ystyried materion fel cyfiawnder byd-eang a’r berthynas rhwng ffydd ac ysbrydolrwydd. Byddwch hefyd yn astudio diwinyddiaeth a sut mae syniadau crefyddol yn cael eu gweithredu mewn sefyllfaoedd byd go iawn, gan wella sut yr ydych yn rhoi gwybodaeth athronyddol ar waith. 

Ochr yn ochr â ffocws ar theori, byddwch hefyd yn ymgysylltu â llenyddiaeth, ffilm a hanes, gan weld sut mae’r meysydd hyn yn croestorri â chrefydd, athroniaeth a moeseg. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall sut mae syniadau athronyddol a chrefyddol yn cael eu hadlewyrchu ac yn dylanwadu ar ddiwylliant.

Erbyn diwedd eich gradd, byddwch wedi datblygu sgiliau meddwl beirniadol a dadansoddol a fydd yn eich helpu mewn gwahanol yrfaoedd. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn astudiaethau academaidd pellach, neu yrfa broffesiynol yn y gyfraith, addysg, y cyfryngau neu gyda sefydliadau nid-er-elw, bydd y rhaglen hon yn rhoi sylfaen gadarn. Bydd y radd ddiddorol hon yn rhoi’r sgiliau i chi feddwl yn feirniadol, dadlau’n effeithiol, a gwerthfawrogi’r amrywiaeth gyfoethog credoau ac arferion dynol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
D2N4
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Addysgu ymdrochol arloesol mewn grwpiau bach a thiwtorialau un-i-un.
02
Lle i feddwl yn annibynnol a chyfleoedd i ddilyn eich diddordebau eich hunan.
03
Cyfle i gyfuno eich astudiaethau â modylau o bynciau eraill y Dyniaethau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â’r cwestiynau athronyddol a chrefyddol mawr, wrth archwilio effaith y dadleuon hyn yn y byd go iawn. Rydym yn mynd i’r afael â materion hanesyddol, gwleidyddol a chymdeithasol, gan helpu myfyrwyr i fynd i’r afael â dadleuon oesol a heriau cyfoes.

Byddwch yn meithrin sylfaen gref mewn moeseg, athroniaeth hynafol, ac athroniaeth wleidyddol. Byddwch yn archwilio’r astudiaeth o grefydd a diwinyddiaeth, ac yn mynd i’r afael â rhai o’r cwestiynau mawr sydd wedi llunio’r meddwl dynol. Mae’r flwyddyn hon yn gosod y sylfaen ar gyfer deall cysyniadau athronyddol a chrefyddol cymhleth.

Cyflwyniad i Foeseg

(20 credydau)

Athroniaeth yr Hen Fyd

(20 credydau)

Rhyddid, Cydraddoldeb a Chyfiawnder: Cyflwyniad i Athronyddiaeth Wleidyddol

(20 credydau)

Archwilio Astudio Crefydd a Diwinyddiaeth

(20 credyd )

Y Cwestiynau Mawr

(20 credyd )

Byddwch yn ymchwilio i safbwyntiau amrywiol am grefydd ac yn archwilio athroniaeth fodern gynnar. Bydd modiwlau hyblyg hefyd yn caniatáu i chi ymchwilio i bynciau fel croestoriadau rhwng rhywedd, crefydd a rhywioldeb, ac ystyried natur bodau dynol, anifeiliaid a pheiriannau o safbwynt athroniaeth y meddwl.

Cyffesu gyda Sant Awstin: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig

(20 credydau)

Amgylcheddaeth y Farchnad Rydd, Busnes Mawr a Gwleidyddiaeth Fyd-eang
Athroniaeth Fodern Gynnar

(20 credydau)

Dirfodaeth a Ffenomenoleg

(20 credydau)

Cyrff Cymhleth: Cwestiynu Rhywedd, Crefydd a Rhywioldeb

(20 credyd)

Athroniaeth y Meddwl: Dynion, Anifeiliaid a Pheiriannau

(20 credyd)

Rhyddid, Gweithredu a Chyfrifoldeb
Metaffiseg ac Epistemoleg

(20 credydau)

Moeseg bywyd

(20 credydau)

Menywod a Chrefydd

(20 credydau)

Crefyddau yn Affrica

(20 credyd)

Athroniaeth yr 20fed Ganrif

(20 credyd)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgysylltu ymhellach â dadleuon cyfoes ar foeseg ochr yn ochr ag ystod eang o ddewisiadau modiwl ychwanegol. Mae rhan sylweddol o’r flwyddyn hon wedi’i neilltuo i’ch prosiect annibynnol, sy’n eich galluogi i ymchwilio’n fanwl i bwnc o’ch dewis.

Cyffesu gyda Sant Awstin: Duw a Chrefydd yng Nghyfnos yr Ymerodraeth Rufeinig

(20 credydau)

Amgylcheddaeth y Farchnad Rydd, Busnes Mawr a Gwleidyddiaeth Fyd-eang
Athroniaeth Fodern Gynnar

(20 credydau)

Dirfodaeth a Ffenomenoleg

(20 credydau)

Cyrff Cymhleth: Cwestiynu Rhywedd, Crefydd a Rhywioldeb

(20 credyd)

Athroniaeth y Meddwl: Dynion, Anifeiliaid a Pheiriannau

(20 credyd)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Rhyddid, Gweithredu a Chyfrifoldeb
Metaffiseg ac Epistemoleg

(20 credydau)

Moeseg bywyd

(20 credydau)

Menywod a Chrefydd

(20 credydau)

Crefyddau yn Affrica

(20 credyd)

Athroniaeth yr 20fed Ganrif

(20 credyd)

Course disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 96 – 112 o bwyntiau UCAS

  • Asesir yn bennaf drwy aseiniadau gwaith cwrs.

  • Mae’r Athrofa wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Mae cyfleoedd gyrfa yn cynnwys rolau o fewn addysg grefyddol a/neu astudiaeth ôl-raddedig. 

Mwy o gyrsiau Athroniaeth, Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol

Chwiliwch am gyrsiau