Skip page header and navigation

Addysg Gorfforol (Llawn amser) (CertHE)

Caerfyrddin
1 Flwyddyn Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Mae’r Dystysgrif Addysg Gorfforol (TystAU) wedi’i chynllunio i ddatblygu eich sgiliau mewn addysgu addysg gorfforol a hyfforddi chwaraeon ieuenctid. Ar y cwrs blwyddyn hwn, byddwch yn cymhwyso cynnwys academaidd drwy amrywiaeth o weithgareddau ymarferol, gan gynnwys gemau, athletau, iechyd a ffitrwydd, dawns, nofio, gymnasteg a gweithgareddau anturus. 

Byddwch yn cael eich arwain gan dîm o staff academaidd ysbrydol gyda phrofiad helaeth mewn addysg gorfforol a chwaraeon.  Bydd eu gwybodaeth a’u harbenigedd yn eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau.

Mae’r rhaglen wedi cael ei datblygu mewn cydweithrediad ag ymarferwyr o faes addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid gan sicrhau ei bod yn berthnasol i’r maes. Bydd astudio’r dystysgrif hon yn helpu i chi benderfynu os ydych am ddilyn y rhaglen radd lawn (dwy flynedd atodol) neu yrfa yn y dyfodol mewn addysgu, hyfforddi neu feysydd cysylltiedig eraill. Yn ogystal, mae’r dystysgrif hon yn eich paratoi ar gyfer swyddi yn y maes hyfforddi a swyddi cynorthwywyr dysgu.  Byddwch yn datblygu profiad gwerthfawr yn gweithio gyda phlant, a all arwain at rolau mewn gwaith ieuenctid, gwersylloedd rhyngwladol neu fel gweithiwr chwarae. 

Mae addysg ymarfer corff a chwaraeon ieuenctid o safon uchel yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles pobl ifanc.  Mae’r cwrs hwn yn rhoi sylfaen gref mewn gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol i’ch helpu i gefnogi pobl ifanc i fyw bywydau iach ac egnïol. 

Ydych chi’n siarad Cymraeg? Os hoffech chi astudio rhan o’r cwrs hwn yn Gymraeg, mae 40 credyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir rhagor o wybodaeth ar fersiwn Cymraeg y dudalen hon.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
CX66
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gradd rhagorol gyda hanes o ddilyniant i addysgu cynradd neu uwchradd.
02
Cwrs unigryw yng Nghymru sydd â phrofiad addysgu ymarferol gyda phlant ym mhob un o dair blynedd yr astudiaethau.
03
Cyfleoedd i astudio dramor yn yr ail flwyddyn yng Nghaliffornia neu Ogledd Carolina.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gan Addysg Gorfforol ffocws sylfaenol ar ddysgu ac addysgu, gan gyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiad ymarferol. Ein nod yw datblygu graddedigion cyflawn sy’n meddu ar y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i ragori ym meysydd addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid. 

Mae’r cwrs yn cyfuno’r technolegau diweddaraf er mwyn cefnogi myfyrwyr mewn profiad dysgu cyfunol sy’n cyd-asio darpariaethau ar-lein ac wyneb yn wyneb.  Yn ogystal, mae cysylltiadau cryf gydag ysgolion lleol ac adrannau addysg gorfforol ar draws y rhanbarth yn galluogi cyfleoedd lleoli helaeth i fyfyrwyr.

Year 1

In the first year, you will be introduced to the fundamentals of physical education and youth sport. Modules cover the basics of facilitating adventurous activities and creative education through movement. You will start developing your theoretical knowledge alongside practical skills.

Gorfodol 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Hwyluso Gweithgareddau Anturus

(20 credydau)

Addysg Greadigol trwy Symud

(20 credydau)

Addysg Gorfforol a Gweithgareddau Dŵr

(20 credydau)

Dewisol

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Ffisioleg Ddynol a Ffitrwydd

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • 32 pwynt UCAS neu’n amodol ar gyfweliad anffurfiol.

    Mae croeso arbennig i fyfyrwyr aeddfed sydd â phrofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn cyd-destun chwaraeon.

  • Yn unol â’r athroniaeth sy’n tanategu’r radd, rhoddir pwyslais cryf ar ddulliau dysgu ac addysgu wrth asesu modylau.

    Er bod perfformiad personol o ansawdd da yn cael ei annog, nid yw’n ffocws asesiadau’r modylau ymarferol eu natur. Yn lle hyn, caiff materion cynhwysiant, hawl a gwahaniaethu eu mewnosod yn llawer o’r asesiadau, a bydd rhaid i fyfyrwyr gynllunio a gwerthuso eu haddysgu nhw eu hunain ac eraill.

    Bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno dadl gytbwys â thystiolaeth trwy eu gwaith ysgrifenedig ffurfiol, yn ogystal â thrwy cyflwyniadau unigol a grŵp.

    Yn y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn dylunio a chynnal eu prosiect ymchwil neu bortffolio beirniadol eu hunain mewn maes arbenigol o’u dewis.

    Ymhlith y mathau penodol o asesiad mae:

    • traethodau;
    • adroddiad labordy;
    • cyflwyniadau (grŵp ac unigol);
    • tasgau ymarferol; a,
    • arholiadau (papurau a welwyd ac na welwyd).
  • Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs.
    £30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos ar gyfer holl fyfyrwyr y flwyddyn 1af.

  • Ewch i’n adran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau am ragor o wybodaeth. Mae myfyrwyr sy’n dewis astudio rhan o’r cwrs drwy’r Gymraeg hefyd yn gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

  • Gwnewch yn fawr o’r cyfle i dreulio semestr dramor mewn prifysgolion yn yr UD neu Ganada.

    Mae gennym gysylltiadau cyfnewid gyda’r sefydliadau a ganlyn:

    California State University, Fullerton
    Prifysgol Gogledd Carolina, Greensboro

  • Mae myfyrwyr sy’n graddio o’r rhagle radd hon yn debygol o fynd ymlaen i gwrs TAR cynradd neu gwrs Addysg Gorfforol uwchradd neu i’r rhaglen MA Addysg Gorfforol, Chwaraeon a Llythrennedd Corfforol mewnol.

    Ymhlith y llwybrau gyrfaol poblogaidd eraill mae:

    • Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol (PESS) neu Swyddog Campau’r Ddraig;
    • Datblygu Chwaraeon;
    • Gwaith Ieuenctid;
    • Graddau uwch eraill; a,
    • Y gwasanaethau lifrai.