Skip page header and navigation

Rheolaeth Chwaraeon (Llawn amser) (HND)

Abertawe
2 Flynedd Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Mae ein HND mewn Rheoli Chwaraeon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi mewn chwaraeon lleol, rhanbarthol a rhyngwladol.  Bydd y cwrs hwn yn rhoi sgiliau gwerthfawr i chi mewn hyfforddi, cyfarwyddo, mentora, arwain a rheoli.  Gyda’r sgiliau hyn, byddwch yn barod ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y diwydiant chwaraeon. 

Gall mwy o weithgarwch corfforol wella iechyd y cyhoedd, tra bod y cynnydd mewn athletau hamdden a digwyddiadau chwaraeon mawr yn cynnig buddion economaidd.  Mae’r agwedd gadarnhaol hon yn golygu y bydd gan ein graddedigion ragolygon swyddi cryf.  Mae cyfleoedd yn amrywio o hyfforddi a rhaglenni iechyd i arwain prosiectau a rheoli timoedd. 

Byddwch yn tyfu fel dysgwr annibynnol ar y rhaglen Rheoli Chwaraeon. Byddwch yn dysgu i gasglu gwybodaeth, dadansoddi cynnwys a gwneud argymhellion i amrywiaeth o randdeiliaid.  Mae’r rhain yn sgiliau hanfodol ar gyfer gweithio yn y sector chwaraeon, a byddwch yn eu datblygu drwy gydol eich astudiaethau. 

Mae ein cwrs yn cynnig ystod o brofiadau i’ch helpu i ddysgu sut i gaffael, dehongli, cyflwyno a myfyrio ar eich gwaith.  Erbyn diwedd eich astudiaethau, byddwch wedi’ch paratoi’n dda i wneud effaith gadarnhaol yn y diwydiant chwaraeon. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
178N
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
O ganlyniad i ymagwedd gyfeillgar y Brifysgol, gellir nodi anghenion dysgu yn gynnar a threfnu cymorth i wella sgiliau. Mae hyn yn cynnwys ystyriaeth i anghenion arbenigol.
02
Ceir tîm cymorth dysgu sy’n cynnal gweithdai a thiwtorialau rheolaidd mewn datblygu sgiliau sylfaenol ac uwch.
03
Mae’r perthnasoedd gweithio agos rhwng tiwtoriaid a myfyrwyr, a myfyrwyr a’u cyd-fyfyrwyr yn meithrin amgylchedd cadarnhaol ar gyfer dysgu gweithredol.
04
Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol.
05
Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i'w datblygu eu hunain.
06
Mae persbectif rhyngwladol y Brifysgol a’i hintegreiddiad gyda chyflogwyr a chymdeithasau proffesiynol yn gwarantu cynnwys perthnasol a chyfredol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ffocws cyffredinol y llwybr hwn yw darparu rhaglen astudio hyblyg sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth helaeth am faterion a chysyniadau rheolaeth chwaraeon. Gwneir hyn yng nghyd-destun yr amgylchedd diwydiant chwaraeon ehangach ac i gynhyrchu graddedigion a chanddynt y sgiliau a’r galluoedd perthnasol i’w galluogi i gyfrannu’n effeithiol yn sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol y diwydiant chwaraeon, iechyd a ffitrwydd.

Bydd y rhaglen yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd ym maes rheolaeth chwaraeon a hamdden yn y dyfodol. Datblygir sgiliau a gwybodaeth gyrfa gynnar drwy astudio caffael sgiliau, prosesau hyfforddi a chyfarwyddo wrth gyflwyno damcaniaethau a materion allweddol sy’n effeithio ar y diwydiannau chwaraeon a hamdden. Bydd y rhaglen yn datblygu fesul cam gan adeiladu ar fodylau sylfaen. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth am reolaeth trwy fodylau cymhwysol a seiliedig ar waith maes sy’n gysylltiedig â rheolaeth o safbwynt chwaraeon.

In Year 1, you will build a solid foundation in scientific aspects of sport, exercise and physical activity, and health improvement. The curriculum includes practical and theory application, ensuring a comprehensive understanding of the core principles of sports management.

Gorfodol 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Cymhwyso'r Broses Hyfforddi

(20 credydau)

Rheoli Ffitrwydd a Llesiant

(20 credydau)

Chwaraeon, Gweithgaredd Corfforol a Chymdeithas

(20 credydau)

Strwythurau a Chyflenwi Chwaraeon

(20 credydau)

Year 2 focuses on developing management skills, understanding the business environment, and exploring sports marketing and strategic planning. You will also engage in the application of advanced coaching and mentoring process, applying your knowledge to real-world scenarios and gaining valuable experience.

Gorfodol 

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Cymhwyso'r Broses Hyfforddi a Mentora Uwch

(20 credydau)

Cynllunio a Darparu Chwaraeon Cymunedol

(20 credydau)

Rheoli'r Amgylchedd Chwaraeon Proffesiynol ac Elît

(20 credydau)

Seilwaith, Dylunio a Gweithredu Chwaraeon

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • 32 o bwyntiau UCAS gan gynnwys 60 o bwyntiau ar gyfer Safon Uwch neu gyfwerth.


    Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Nod y strategaeth asesu fydd cynorthwyo â datblygiad cytbwys cymwyseddau a gwybodaeth allweddol y diwydiant. Bydd yr asesiadau hefyd yn ceisio cynnal datblygiad mewn rheoli TGCh, cyfathrebu, rhifedd, datrys problemau, rhyngweithio mewn timau, arfarnu beirniadol, hunanreolaeth ac arweinyddiaeth. Bydd y strategaethau’n cynnwys cydbwysedd o aseiniadau, astudiaethau gwaith maes, asesiadau ymarferol a, lle bo’n briodol, arholiadau.

  • £150 ar gyfer cit i fyfyrwyr Rheolaeth Chwaraeon a thaith addysg..

  • Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor.

  • Mae gan y rhaglen gyfradd gyflogadwyedd uchel ar gyfer graddedigion sydd mewn gwaith o fewn chwe mis i gwblhau’r radd, gan gynnwys ym meysydd:

    • Datblygu Chwaraeon Cymunedol
    • Sefydliadau Chwaraeon Cenedlaethol
    • Rheolaeth Chwaraeon / Cyfleusterau Hamdden
    • Atyniadau Hamdden 
    • Timau Chwaraeon Proffesiynol 
    • Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol 
    • Swyddogion Ysgolion a Chlybiau 
    • Rheolaeth Iechyd a Ffitrwydd 
    • Y Cyfryngau Chwaraeon 
    • Diwydiannau cysylltiedig eraill (gwasanaethau cyhoeddus)

    Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig.