Skip page header and navigation

Hyfforddiant Personol a Thylino ar gyfer Chwaraeon (Llawn amser) (CertHE)

Caerfyrddin
1 Blynedd Llawn amser
32 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen hwn wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol i chi ragori fel hyfforddwr personol a therapydd tylunio chwaraeon.

Byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o iechyd a ffitrwydd ar y cwrs hwn. Byddwch yn datblygu profiad ymarferol drwy weithio gyda chleientiaid go iawn, gan eich caniatáu i ddefnyddio gwybodaeth ddamcaniaethol mewn senarios ymarferol.  Yn ogystal, mae ‘r cwrs yn cynnig cyfleoedd i ennill dyfarniadau galwedigaethol mewn ffitrwydd, maeth a thylunio, gan wella’ch cymwysterau ymhellach.  

Byddwch yn cael eich arwain gan ddarlithwyr profiadol iawn sy’n arbenigwyr yn eu meysydd.  Byddant yn darparu cymorth tiwtorial personol, gan sicrhau eich bod yn derbyn yr arweiniad a’r adborth angenrheidiol i lwyddo.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, byddwch wedi cael eich paratoi’n dda i weithio yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd.  Yn ogystal, bydd gennych yr opsiwn i ddatblygu eich astudiaethau drwy symud ymlaen i astudio ar radd BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Y cwrs TystAU hwn yw eich cam cyntaf tuag at yrfa werth chweil mewn hyfforddiant personol a thylunio chwaraeon.  Ymunwch â ni i ddechrau eich taith ym maes deinameg iechyd a ffitrwydd sy’n tyfu’n gyflym.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
PTS1-PT09
Hyd y cwrs:
1 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gradd Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff hynaf Cymru a achredir gan y Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon.
02
Ar ôl graddio, bydd gan fyfyrwyr yr wybodaeth, sgiliau a hyder i weithio fel rhan o dîm neu’n annibynnol fel Therapydd Chwaraeon graddedig.
03
Yn ogystal â’r prif sgiliau sydd eu hangen ar therapydd chwaraeon bydd myfyrwyr hefyd yn cael y sgiliau sydd eu hangen i gynnal asesiadau ffitrwydd ac iechyd ac yn cael y cyfle i ymgymhwyso fel hyfforddwyr campfa a hyfforddwyr personol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Therapydd Chwaraeon Graddedig yw un sy’n gymwys ac yn gallu ymdrin ag anafiadau llym ‘ar ochr y cae’, perfformio asesiad clinigol i ddatblygu diagnosis, a defnyddio amrywiaeth o ddulliau triniaeth ochr yn ochr â thechnegau adsefydlu penodol chwaraeon i helpu’r athletwr yn ôl i gymryd rhan yn llawn mewn chwaraeon.

Bydd myfyrwyr yn dysgu mewn ystafelloedd therapi chwaraeon pwrpasol. 

Yn y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr yn dysgu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen wrth asesu anafiadau chwaraeon, ynghyd â thechnegau meinwe meddal gan gynnwys tylino ar gyfer chwaraeon a chymorth cyntaf ar ochr y cae. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio fel ymarferwyr cymorth cyntaf ar ochr y cae a chael profiad clinigol yn ein clinig tylino ar gyfer chwaraeon. Ochr yn ochr â’r modylau penodol therapi chwaraeon hyn, bydd myfyrwyr hefyd yn astudio ffisioleg dynol cymhwysol a modylau hyfforddiant personol.

Yn yr ail flwyddyn, addysgir myfyrwyr i gwblhau archwiliad ac asesiad llawn o anaf chwaraewr a gwneud diagnosis, trin yr anaf gyda thechnegau therapi â llaw ac adsefydlu’r athletwr i allu cymryd rhan lawn mewn chwaraeon.

Ym mlwyddyn olaf y rhaglen, bydd myfyrwyr yn astudio rheolaeth trawma chwaraeon, electrotherapi ac yn ymgymryd â 200 awr o arfer clinigol. Caiff yr oriau clinigol hyn eu cefnogi gan ein Clinig Anafiadau Chwaraeon sy’n cynnig apwyntiadau Therapi Chwaraeon i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd, dan oruchwyliaeth y tîm therapi chwaraeon. Hefyd, anogir myfyrwyr i ymgysylltu â darparwyr lleoliad gwaith lleol a chenedlaethol i adeiladu portffolio helaeth o Brofiad Therapi Chwaraeon.  

Yn ogystal, caiff prosiect ymchwil tebyg i draethawd hir mewn maes o ddiddordeb i’r unigolyn ei gwblhau yn y flwyddyn olaf hon. 

Gorfodol 

Hyfforddiant Personol

(20 credydau)

Ffisioleg Ddynol a Ffitrwydd

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Tylino Chwaraeon

(20 credydau)

Cinesioleg

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Disgwylir i fyfyrwyr gyflawni 120 o bwyntiau UCAS gyda ffocws ar bynciau seiliedig ar y gwyddorau ac addysg gorfforol. Rhaid i fyfyrwyr hefyd gael o leiaf Gradd C mewn TGAU Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth.

    Rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gyflawni IELTS lefel 7 heb yr un elfen o dan 6.51. Bydd myfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt bwyntiau UCAS digonol yn cael eu hystyried yn ôl eu haeddiant drwy broses gyfweld.  

    Mae unrhyw le a gynigir ar y rhaglen BSc (Anrh) Therapi Chwaraeon yn amodol ar ddatgeliad DBS. 

    Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â chymwysterau.

    Os ydych yn ystyried gwneud cais i’r cwrs BSc (Anrh) Therapi Chwaraeon yn Y Drindod Dewi Sant, ond mae gennych anabledd ac rydych yn poeni am sut y gallai hyn effeithio ar eich gallu i gymryd rhan mewn dosbarthiadau ymarferol a chwblhau asesiadau’n llwyddiannus, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen.

  • Mae’r radd yn alwedigaethol ac felly caiff modylau eu hasesu drwy asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Gall y rhain fod ar ffurf traethodau, adroddiadau, adolygiadau llenyddiaeth, archwiliadau clinigol eu natur a chyflwyniadau.

  • Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu tracwisg a thopiau hyfforddi’r brifysgol y bydd eu hagen mewn sesiynau ymarferol ac wrth weithio gyda grwpiau allanol.

    Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs

    Efallai y bydd tâl cofrestru’n cael ei godi ar fyfyrwyr sy’n dymuno cyflawni cymwysterau galwedigaethol ychwanegol gan y corff dyfarnu.

    £30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos i holl fyfyrwyr blwyddyn 1 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Bydd myfyrwyr sy’n graddio o’r radd yn cael teitl Therapydd Chwaraeon Graddedig a byddant yn gymwys i gael aelodaeth lawn o’r Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon. Yn ogystal, byddant yn gallu gwneud cais am aelodaeth o’r Gofrestr gweithwyr proffesiynol Ymarfer Corff. Fel y cyfryw mae myfyrwyr yn orau gweddu mynd yn Therapyddion Chwaraeon neu’n ymgynghorwyr iechyd a ffitrwydd. Gallent hefyd fynd ymlaen i’r rhaglenni Meistr ôl-raddedig.