Skip page header and navigation

Plismona Proffesiynol (Llawn amser) (BSc Anrh)

Caerdydd
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Nod ein gradd Plismona Proffesiynol yw rhoi’r ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen ar gyfer plismona modern i fyfyrwyr.  Mae’r cwrs yn ymdrin â safonau plismona proffesiynol, sefyllfaoedd amrywiol, a chyd-destunau gwahanol.  Ei nod yw ehangu eich gallu i berfformio’n effeithiol fel cwnstabl yr heddlu ym meysydd allweddol plismona proffesiynol. 

Fel myfyriwr BSc Plismona Proffesiynol, byddwch yn archwilio sut mae ffactorau gwleidyddol a chymdeithasol yn dylanwadu ar droseddau.  Byddwch yn astudio troseddoli a phrosesau gwleidyddol a chymdeithasol erledigaeth.  Yn ogystal, byddwch yn dysgu am ddamcaniaethau troseddegol a sut mae amrywiaeth cymdeithasol ac anghydraddoldeb yn effeithio ar droseddu a’r ymatebion iddo.  Bydd deall y cysyniadau hyn yn eich helpu i weld sut mae trosedd yn effeithio ar wahanol grwpiau o bobl mewn cymdeithas. 

Mae’r cwrs hwn yn eich cyflwyno i’r problemau cymhleth cymdeithasol sy’n gysylltiedig â throseddu, megis materion dosbarth ac erledigaeth.  Byddwch yn dysgu am yr ymatebion i drosedd a gwyrni, a datblygu sgiliau i gymharu’r ymatebion hyn, gan adnabod eu cryfderau a’u gwendidau.  Bydd hyn yn cynnwys astudio dulliau ymchwilio troseddol a deall sut i werthuso eu heffeithiolrwydd. 

Byddwch yn ymchwilio i wahanol strategaethau a dulliau sy’n cael eu defnyddio mewn plismona ar y radd hon.  Byddwch yn dysgu i asesu pa mor addas yw’r strategaethau hyn mewn sefyllfaoedd gwahanol.  Yn ogystal, mae’r cwrs yn ymdrin ag arferion a datblygiadau mewn arferion asiantaethau cyfiawnder troseddol.  Mae hyn yn cynnwys edrych ar sut mae gwerthoedd a pherthnasoedd yn newid rhwng unigolion, grwpiau ac asiantaethau cyhoeddus a phreifat. 

Mae’r radd hon yn radd cyd-ymuno sy’n seiliedig ar wybodaeth mewn plismona proffesiynolae angen i chi  cyn y gallwch ymuno’n ffurfiol â gwasanaeth yr heddlu.Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi datblygu yr wybodaeth a’r sgiliau sy’n uniongyrchol berthnasol i orfodi’r gyfraith yn y Gwasanaeth Heddlu yng Nghymru a Lloegr. 

Mae’r pynciau allweddol a drafodir yn y cwrs yn cynnwys plismona cymunedol, plismona ymateb a diogelu’r cyhoedd.  Yn ogystal, byddwch yn astudio plismona yn seiliedig ar dystiolaeth, sy’n defnyddio ymchwil i liwio eich penderfyniadau a’ch gweithredoedd.  Byddwch hefyd yn dysgu am rolau’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol a’r Gwasanaethau Carchardai a Phrawf. 

Mae’r radd Plismona Proffesiynol hon wedi’i chynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn plismona.  Byddwch yn datblygu sylfaen gadarn ym meysydd craidd plismona, gyda ffocws ar ddeall troseddau a gwyrni ac ymateb iddynt.  Mae’r cwrs hwn yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer recriwtio i wasanaeth yr heddlu ac i ragori fel cwnstabl yr heddlu.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
PRP1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gradd mewn plismona proffesiynol sy’n seiliedig ar wybodaeth yw hon. Mae’r cwrs gradd yn addas i fyfyrwyr ei gwblhau cyn iddynt ymuno â’r heddlu a chyn mynd drwy broses recriwtio ffurfiol.
02
Bydd strategaethau dysgu sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr yn cael eu defnyddio drwy gydol y rhaglen.
03
Mae'r Brifysgol yn cydweithio â Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs hwn yn cydbwyso theori ac ymarfer gan ddefnyddio strategaethau dysgu sy’n bersonol ac yn gydweithredol. 

Bydd myfyrwyr yn cael profiad mewn gweithgareddau plismona allweddol drwy gydol y rhaglen hon. Mae llawer o’r gweithgareddau hyn yn ymdrin â phroblemau ac achosion yn y byd go iawn.  Mae’r ymagwedd hon yn sicrhau bod myfyrwyr nid yn unig yn dysgu yn yr ystafell ddosbarth, ond hefyd yn defnyddio eu gwybodaeth mewn lleoliadau ymarferol. 

Ein nod yw datblygu meddwl beirniadol, sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddofn o blismona.  Mae’r ymagwedd amlochrog hon yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu ystod eang o sgiliau, gan eu paratoi ar gyfer maes cymhleth a deinameg plismona proffesiynol.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i hanfodion plismona proffesiynol ac yn archwilio ffactorau sy’n dylanwadu ar drosedd a phlismona.  Cynigir modylau mewn sgiliau cyfathrebu ar gyfer plismona hefyd.  

Plismona Ymatebol

(20 credydau)

Sgiliau Academaidd a Chyfathrebu ar gyfer Plismona

(20 Credits)

Troseddau Sylfaenol

(20 Credydau)

Plismona seiliedig ar dystiolaeth a Phlismona Ataliol

(20 Credydau)

Plismona a’r System Cyfiawnder Troseddol

(20 Credydau)

Deall rôl Cwnstabl

(20 Credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn ymchwilio’n ddyfnach i gymhlethdodau trosedd, dosbarth ac erledigaeth.  Byddwch yn astudio amrywiaeth o atebion i drosedd a gwyrni, gan ddatblygu sgiliau i gymharu’r ymatebion hyn yn feirniadol.  Mae modylau arbenigol yn cynnwys plismona Cymru, polisi ac ymateb Cymunedol a phlismona’r ffyrdd. 

Paratoi ar gyfer Ymchwil o fewn Plismona

(20 Credydau)

Plismona Cymunedol ac yn y Gymdogaeth

(20 Credydau)

Troseddau Cymhleth

(20 Credydau)

Plismona Pobl Fregus a Grwpiau Risg

(20 Credydau)

Plismona Cymru

(20 Credydau)

Plismona Ymatebol a Phlismona Ffyrdd

(20 Credydau)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau uwch mewn plismona proffesiynol.  Byddwch yn ymgymryd ag ymchwil annibynnol a chymhwyso strategaethau plismona sy’n seiliedig ar dystiolaeth.  Nod y flwyddyn hon yw atgyfnerthu eich dysgu a’ch paratoi ar gyfer recriwtio i wasanaeth yr heddlu, gan sicrhau eich bod yn barod am heriau’r sector hwn.  

Plismona Digidol a Gweithredol

(20 credydau)

Cynnal Ymchwiliadau Heddlu

(20 Credydau)

Amddiffyn y Cyhoedd a Gwrthderfysgaeth

(20 Credydau)

Paratoi ar gyfer Rôl Cwnstabl

(20 Credydau)

Prosiect Ymchwil Plismona

(40 Credydau)

Course Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Caerdydd

Mae gan Gaerdydd ddewis eang o lety i fyfyrwyr, ac mae cyfleoedd diddiwedd o ran llety ar gael i fyfyrwyr sy’n dewis astudio yng Nghaerdydd. Mae nifer o ddarparwyr llety pwrpasol i fyfyrwyr yn y ddinas a bydd ein tîm llety yn gallu eich arwain trwy’r opsiynau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 120 pwynt UCAS neu gyfwerth. 

  • Mae’r asesiadau wedi’u cynllunio ar y cyd gan dîm y rhaglen, i sicrhau eu bod yn ffurfio cyfanwaith cydlynol ac yn bodloni gofynion cwricwlwm Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona (PEQF) y Coleg Plismona ar gyfer y radd Plismona Proffesiynol Cyn Ymuno.

    Prif bwrpas y cynllun asesu yw galluogi myfyrwyr i ddangos yn unigol eu bod wedi bodloni nodau’r rhaglenni ac wedi cyflawni’r deilliannau dysgu i’r safon sy’n ofynnol ar gyfer lefel yr astudiaeth.  Bydd asesu hefyd yn cael ei ddefnyddio i roi adborth i fyfyrwyr i’w cynorthwyo gyda dysgu dilynol. 

    Bydd pob modiwl yn cael ei asesu’n grynodol drwy amrywiaeth o dasgau asesu unigol ond defnyddir dulliau ffurfiannol hefyd. Cynhelir asesiad ffurfiannol trwy ymarferion ymarferol sy’n cael eu cynnal a’u trafod yn y dosbarth, chwarae rôl, trafodaethau, cyflwyniadau gan fyfyrwyr a’r sesiynau sydd wedi’u neilltuo i adolygu’r arholiadau ar ôl iddynt gael eu marcio.

    Bydd amrywiaeth o ddulliau asesu crynodol yn cael eu defnyddio. Defnyddir arholiadau yn bennaf (ond nid yn unig) i brofi gwybodaeth a dealltwriaeth.

    Mae gwaith cwrs ac asesiadau ymarferol hefyd yn profi gwybodaeth a dealltwriaeth, ond maen nhw’n dueddol o ganolbwyntio mwy ar ddatblygu sgiliau gwybyddol, ymarferol ac allweddol. Mae dulliau o’r fath yn hynod briodol i natur y ddisgyblaeth blismona gan eu bod yn hwyluso asesu ac arfer dilys sy’n berthnasol i’r gweithle. Bydd gwaith cwrs a gwaith ymarferol yn cael eu gosod mewn amrywiaeth o ffurfiau; mae’r rhain yn cynnwys:

    • Traethodau
    • Adroddiadau
    • Portffolios
    • Prosiectau Ymchwil
    • Cyflwyniadau.
  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu gwerslyfrau ar gyfer modiwlau fel y Prosiect Annibynnol, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y radd derfynol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Fel darparwr cymeradwy, bydd heddluoedd yn gallu cydnabod y radd fel un sy’n addas i’r diben a bydd hynny o blaid y myfyrwyr wrth iddynt wrth wneud cais.

    Mae’r Brifysgol yn cydweithio â Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Yn hanesyddol, mae nifer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio gyda’r heddluoedd hyn oherwydd y cysylltiadau sydd wedi’u gwneud. O ganlyniad i’r cydweithio hwn, mae nifer o hyfforddwyr yr heddlu yn gweithio gyda’r tîm i gyflwyno arfer proffesiynol ychwanegol a darparu sesiynau ymarferol HYDRA i’r myfyrwyr.

    Mae’r rhaglen heddlu gwirfoddol sydd wedi’i chynnal rhwng PCYDDS a Heddlu De Cymru ers 2012 yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr o blismona ymarferol sydd hefyd yn gwella eu cyfleoedd wrth gamu ymlaen. 

Mwy o gyrsiau Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona

Chwiliwch am gyrsiau