Skip page header and navigation

Astudiaethau Addysg: Cynradd (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
88 o Bwyntiau UCAS

Oes gennych chi ddiddordeb mewn Addysg Gynradd? Ydych chi am wneud gwahaniaeth i fywydau plant? Mae ein rhaglen radd BA Astudiaethau Addysg: Cynradd wedi’i chynllunio i ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ar gyfer y sector addysg.

Bydd y radd hon yn eich trochi mewn cyd-destun eang o addysg, gan ganolbwyntio ar feysydd pwysig fel addysg gynhwysol, sut y mae plant yn dysgu ac arferion addysg proffesiynol. Mae ein rhaglen yn un o’r ychydig rhai yn y DU sy’n benodol ar gyfer astudio addysg yn sector ysgolion cynradd.

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn cael gwybodaeth am reolaeth yn yr ystafell ddosbarth, cynllunio gwersi, y cwricwlwm a dulliau addysgu. Mae’r meysydd hyn yn hanfodol ar gyfer creu amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol i bob plentyn.

Mae’r radd Astudiaethau Addysg: Cynradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd o fewn y sector addysg. Er bod llawer o raddedigion yn dod yn athrawon ysgol gynradd, mae eraill yn dilyn rolau mewn iechyd a gwaith cymdeithasol, lle gallant roi eu gwybodaeth a’u sgiliau ar waith i gefnogi plant a theuluoedd. 

Mae profiad ymarferol yn rhan hanfodol o’r cwrs hwn. Byddwch yn cael cyfleoedd ar gyfer lleoliadau addysgu lle gallwch roi eich dysgu ar waith mewn lleoliadau byd go iawn. Bydd y lleoliadau hyn yn eich helpu i adeiladu sylfaen gref ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn gweithio gyda phlant.

Dewiswch ein gradd Astudiaethau Addysg: Cynradd i gael effaith gadarnhaol ar fywydau dysgwyr ifanc a llunio dyfodol addysg. Datblygwch eich sgiliau, ehangu eich gwybodaeth, a pharatoi ar gyfer gyrfa werth chweil mewn addysg gynradd.

Mae’r cwrs hwn hefyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Cyfunol (ar y campws)
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
36H5
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
BA Astudiaethau Addysg: Cynradd yw un o’r rhaglenni gradd prin yn y DU sy’n ffocysu ar astudio addysg yn y sector ysgolion cynradd.
02
Mae’r rhaglen ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy gyfrwng y Saesneg, neu’n ddwyieithog.
03
Bydd pob myfyriwr ynn mynd ar ddau leoliad arsylwadol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs hwn yn cyfuno theori, polisi ac arfer mewn addysg gynradd, gan ddefnyddio addysgeg, seicoleg a chymdeithaseg. Mae yna bwyslais ar faterion cyfoes ac yn galluogi myfyrwyr i gymryd rhan mewn ymchwil ar raddfa fach, gan feithrin dealltwriaeth ddofn o’r cysylltiad rhwng theori ac ymarfer. 

Bydd y rhaglen yn rhoi’r ddealltwriaeth a’r sgiliau i chi sy’n berthnasol ar gyfer gweithio gyda phlant oedran ysgol gynradd, gan ystyried: 

  • Ble a sut mae plant yn dysgu?
  • Beth yw’r rhwystrau i ddysgu y mae plant yn eu profi a sut y gellir eu goresgyn?
  • Beth yw’r ffactorau allweddol sy’n cael effaith ar addysg gynradd yng Nghymru heddiw?
  • Sut mae oedolion yn gweithio’n fwyaf effeithiol gyda phlant mewn lleoliad addysgol?
  • Beth yw manteision addysg ddwyieithog?
  • Beth yw’r sgiliau pwysicaf sydd eu hangen ar ddysgwyr ar gyfer y dyfodol?

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio sylfeini addysg drwy ystod amrywiol o fodiwlau sy’n archwilio datblygiad addysgol, theori ac ymarfer dysgu a hawliau plant. 

Addysg: ddoe, heddiw, yfory

(20 credydau)

Datblygiad ar draws y rhychwant oes

(20 credydau)

Damcaniaeth ac Arfer Dysgu

(20 credydau)

Parchu Hawliau Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru

(20 credydau)

A phopeth yn gyfartal?
Datblygu Sgiliau Academaidd Llwyddiannus

(20 Credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar addysg gynhwysol a sgiliau ymarferol. Yn ogystal, bydd modiwl sy’n canolbwyntio ar ddarllen, ysgrifennu a rhifyddeg yn gwella eich dealltwriaeth o bynciau craidd addysg gynradd.

Mae Pawb yn Golygu Pawb

(20 credydau)

Amgylcheddau dysgu amgen

(20 credydau)

Dod yn Addysgwr Cynradd

(20 credydau)

Y 3 R

(20 credydau)

Y Meddwl Ymchwilgar: Dulliau Creadigol o Ddysgu ac Addysgu
Ymchwil Addysgol

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â Phrosiect Annibynnol, a fydd yn eich galluogi i ymchwilio’n fanwl i bwnc o ddiddordeb. Byddwch hefyd yn archwilio astudiaethau a phynciau cwricwlwm ac asesu, gan edrych ar yr effeithiau ar brofiadau dysgu plant.

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Astudiaethau Cwricwlwm ac Asesu

(20 credydau)

Gwneud Gwahaniaeth Gyda'n Gilydd

(20 credydau)

Llesiant mewn Addysg

(20 credydau)

Hinsoddau Dysgu

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Cynnig Nodweddiadol: Pwyntiau UCAS =  88 ac uwch.

    Bydd myfyrwyr yn gwneud cais o amrywiaeth o gefndiroedd, yn uniongyrchol o gyrsiau Lefel A neu gyrsiau Lefel 3 eraill (e.e. CACHE) neu o fod wedi gadael addysg.

    Nid oes angen unrhyw bwnc lefel A penodol. Os ydy myfyrwyr yn dymuno hyfforddi i fod yn athrawon yng Nghymru ar ôl graddio, bydd angen gradd B arnynt, ar lefel TGAU, mewn Saesneg a Mathemateg, a gradd B mewn Cymraeg – os ydynt yn dymuno hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd angen gradd C arnynt mewn TGAU Gwyddoniaeth.

    Mae’r cwrs yn croesawu myfyrwyr o gefndiroedd mynediad annhraddodiadol ac rydym yn ystyried profiad, sgiliau bywyd perthnasol a photensial academaidd wrth asesu ymgeiswyr.

    Yn ystod y semester cyntaf, mae pob myfyriwr yn ymgymryd â modwl sgiliau astudio, sy’n helpu i’w paratoi nhw at ofynion addysg uwch.

  • Mae myfyrwyr yn cyflwyno gwaith mewn amrywiaeth o ffyrdd i’w galluogi i ddatblygu eu sgiliau tîm, yn ogystal â sgiliau dysgu annibynnol.

    Ymhlith yr asesiadau mae senarios seiliedig dysgu problemau, cyflwyniadau poster academaidd, portffolios, aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau seminar unigol.

    Does dim arholiadau.

  • Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu cost gwerslyfrau hanfodol, am brintio a chopi ac am ddeunydd ysgrifennu ac am gynhyrchu traethodau, aseiniadau a thraethodau hir sydd eu hangen i fodloni gofynion academaidd pob rhaglen astudio.

    Mae’n rhaid i fyfyrwyr wneud cais am, a chael Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) Y Drindod Dewi Sant. Mae’r ffi’n cael ei bennu gan y DBS; ar hyn o bryd, y ffi yw tua £44.

    Mae angen i fyfyrwyr gael cyfwerth ag 80 awr o brofiad ymarferfol mewn lleoliad megis ysgol, mewn lleoliad gwirfoddol, neu gydag asiantaethau eraill fel iechyd neu ofal cymdeithasol, neu leoliadau dysgu awyr agored. Fe fydd hyn yn golygu costau teithio a lluniaeth.

    Mae’r rhaglen yn trefnu profiadau astudio gorfodol a gweithgareddau cyfoethogi i fyfyrwyr. Bydd y Ddisgyblaeth yn talu am y costau teithio ac astudio a gyfyd yn sgil hyn. Fodd bynnag, ar gyfer rhai ymweliadau, bydd rhaid i fyfyrwyr gyflenwi eu lluniaeth eu hunain, ac ar gyfer rhai ymweliadau, ddillad addas ar gyfer yr awyr agored.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

    • Canada: Coleg Camosun
    • Y Ffindir: Prifysgol Humak
    • Y Ffindir: Prifysgol Humak (Hydref)
    • Y Ffindir: Prifysgol Humak (Gwanwyn)
    • Unol Daleithiau: Coleg Presbyteraidd, De Carolina
    • Unol Daleithiau: Prifysgol Rio Grande, Ohio
  • Caiff ein graddedigion eu cyflogi mewn amrywiaeth o leoliadau.

    Oherwydd natur ein gradd mae gan ein graddedigion y sgiliau, y rhinweddau, y dealltwriaeth a’r galluoedd i weithio mewn amrywiaeth o sectorau gan gynnwys y sector addysg, gofal cymdeithasol, iechyd a galwedigaethau tebyg, yn ogystal â’r sector gwirfoddol.

    Mae ein gradd yn berthnasol i’r graddedigion hynny sy’n dymuno hyfforddi i fod yn athrawon trwy’r llwybr Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) gan fod y radd yn rhoi’r cefndir a’r dyfnder dealltwriaeth ynghylch y materion hyn sy’n berthnasol i blant ysgol gynradd. Mae graddedigion eraill wedi parhau â’u hastudiaethau gydag amrywiaeth o raglenni meistr.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau