Skip page header and navigation

Doethuriaeth mewn Addysg (Llawn amser) (EdD)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser

Mae’r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â phrofiad o weithio mewn ysgol neu mewn rôl sy’n gysylltiedig ag addysg, ac mae wedi’i hanelu’n benodol at y rheiny sy’n ymwneud ag addysg mewn ystod eang o swyddi: athrawon, arweinwyr a rheolwyr mewn ysgolion, darlithwyr mewn sefydliadau AU ac AB, swyddogion yn y sector gwirfoddol a’r trydydd sector, staff awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, sefydliadau hyfforddi ac ati.

Bydd y rhaglen yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol, er mwyn iddynt gwestiynu ymchwil, beirniadu theori a chynnal ymchwil trylwyr a fydd yn effeithio ar bolisi ac arfer yn eu maes gweithgarwch proffesiynol.

Mae’r llwybr amser llawn wedi’i rannu’n ddwy ran gysylltiedig:  

Rhan 1 – elfen a ‘addysgir’ sy’n datblygu sgiliau ysgrifennu, ymchwilio, a dadansoddi beirniadol myfyrwyr. Mae’r rhan hon yn cynnwys darlithoedd wyneb yn wyneb a gynhelir ar gampws y brifysgol.  

Rhan 2 – cwblhau traethawd ymchwil 60,000 o eiriau ar faes diddordeb o’ch dewis. Mae’n bosibl cwblhau elfen y traethawd ymchwil fel dysgwr o bell.

Mae’n orfodol mynychu’r holl sesiynau wyneb yn wyneb, a chewch eich cefnogi gydol eich astudiaethau gan dîm profiadol o staff academaidd uchel eu parch.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Rhan Un - Ar y campws
  • Rhan Dau - Cyfunol
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Llwybr dysgu cyfunol, yn cynnwys astudiaeth grŵp ac annibynnol.
02
Lefelau uchel o gefnogaeth a her academaidd.
03
Modylau dulliau ymchwil a chyfleoedd i ymgymryd ag ymchwil ar raddfa fach cyn eich prosiect ymchwil annibynnol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant enw da hir-sefydlog am ragoriaeth ym maes dysgu proffesiynol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac ymchwil addysgol sy’n canolbwyntio ar addysgeg. Mae’r radd EdD yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un â phrofiad o weithio mewn ysgol neu mewn rôl sy’n gysylltiedig ag addysg ac sydd ag awydd am lefel uwch o astudiaethau academaidd cymhwysol ac ymchwil sy’n rhoi sylw manwl i arfer.

Gellir astudio’r rhaglen yn amser llawn neu’n rhan amser.

Yn achos y llwybr amser llawn mae presenoldeb rheolaidd ar y campws yn ofynnol drwy gydol blwyddyn gyntaf y rhaglen a ‘addysgir’, ac felly ni ellir ei hastudio o bell. Mae’n orfodol mynychu’r holl sesiynau wyneb yn wyneb ac mae’n bwysig bod myfyrwyr yn ymrwymo i gymryd rhan lawn ym mywyd y brifysgol. Mae’n bosibl astudio Rhan 2- elfen y traethawd ymchwil – o bell. 

Mae’r llwybr rhan amser wedi’i gynllunio gydag addysgwyr wrth eu gwaith mewn golwg, a chefnogir y dysgu ar-lein gan ddau ddigwyddiad dysgu undydd wyneb yn wyneb bob semester. Mae’r llwybr hwn yn boblogaidd ymysg addysgwyr wrth eu gwaith, ac ymhlith ein myfyrwyr cyfredol mae athrawon, arweinwyr ysgol, darlithwyr coleg/prifysgol a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes addysg. 

Yr elfen adfyfyrio ar arfer proffesiynol yw’r gwahaniaeth rhwng y ddoethuriaeth broffesiynol a dyfarniad PhD.

Mae strwythur a fformat y rhaglen wedi’u llunio fel bod myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd dysgu, gan gynnwys gwaith unigol, seminarau grŵp, gweithdai, darlithoedd ffurfiol dan arweiniad tiwtor, yn ogystal â thiwtorialau ar-lein mewn grwpiau ac yn unigol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys dwy ran, elfen Lefel 7 a addysgir ar gyfer Rhan 1 a phrosiect ymchwil seiliedig ar waith ar lefel ddoethurol (Lefel 8) yn Rhan 2. 

Cyflwyniad i Ddulliau Ymchwil mewn Addysg

(30 credydau)

Dylunio a Rheoli Ymchwil mewn Addysg

(30 credydau)

Archwilio Materion Cyfoes mewn Addysg 2: cymhwyso sgiliau beirniadol, cyfrannu at wybodaeth: arwain gwelliant

(60 credydau)

Archwilio Materion Cyfoes mewn Addysg 1: Adolygu Polisi a Dadansoddi Beirniadol

(30 credydau)

Ysgrifennu Adolygiad Beirniadol o Lenyddiaeth mewn Addysg

(30 credydau)

Traethawd Ymchwil

(360 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

example of student bedroom

Llety Abertawe

Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.

Gwybodaeth allweddol

  • Yn ddelfrydol, byddwch yn gweithio mewn lleoliad addysgol neu leoliad sy’n gysylltiedig ag addysg ac eisoes yn meddu ar radd Meistr; fodd bynnag, anogir ymgeiswyr a chanddynt beth profiad o astudio ar Lefel 7 a phrofiad sylweddol o arweinyddiaeth i wneud cais.

    Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg na’r Gymraeg yn iaith frodorol iddynt ddarparu tystiolaeth o gymhwysedd yn y Saesneg neu’r Gymraeg sy’n ddigonol ar gyfer astudiaethau ymchwil, yn unol â’r disgwyliadau a nodir yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd (LlAA) adeg y cais. Bydd ceisiadau myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu prosesu fel y’i nodir ym Mholisi Derbyn PCYDDS adeg y cais.

  • Mae ystod o brosesau asesu’n berthnasol i’r modylau a addysgir gan gynnwys cyflwyniadau byw ac ar fideo ac aseiniadau ysgrifenedig.  

    Asesir Rhan 2 ar ffurf prosiect ymchwil seiliedig ar waith 60,000 o eiriau ac arholiad viva voce.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd y rhaglen yn cyfoethogi a hyrwyddo cynnydd pellach yng ngyrfaoedd a chyfleoedd gyrfa myfyrwyr. Caiff y sgiliau dadansoddol a throsglwyddadwy cryf sy’n gynwysedig yn y rhaglen eu gwerthfawrogi gan ystod o lwybrau gyrfa a meysydd galwedigaethol o fewn y cyd-destun addysgol eang.  

    Gyda ffocws arbennig ar ddatblygu sgiliau ymchwil, dadansoddi a gwerthuso ar lefel uwch, bydd y radd EdD yn rhoi set gref o sgiliau meddwl yn feirniadol, dadansoddi a datrys problemau i’w myfyrwyr.

Mwy o gyrsiau Addysgu a TAR

Chwiliwch am gyrsiau